"Llawenychais pan ddywedent wrthyf awn I dy yr Arglwydd."
Mae'n bosibl fod cymuned Gristnogol Geltaidd yn addoli ar y safle hwn mor gynnar â'r seithfed ganrif. Ar ddechrau'r 1200 roedd yn enwog am ei defosiwn a'i lletygarwch. Ychydig wedi hynny, gyda chymunedau Celtaidd Cristnogol Ynys Enlli a Phenmon, daeth yn briordy o Ganoniaid Awstinaidd. Erbyn 1230 roedd eglwys briordy Dyffryn y Santes Fair wrth droed yr Wyddfa wedi ei hailadeiladu, a Thywysogion Gwynedd yn noddwyr iddi mae'n debyg. Cofnodir yr enw Beddgelert yn 1268, o bosibl er cof am Celer, sylfaenydd tebygol yr Eglwys. I'r de o'r eglwys byddai glwysgor, clasordai, ystafell gysgu a ffreutur. Cafwyd tanau mawr yn 1283 a dechrau'r l400au, a oedd yn gyfnodau o ryfel a chythrwfl. Roedd y priordy hefyd yn berchen ar lawer o diroedd yng Ngwynedd ac Ynys Môn ac yn gofalu am lu o eglwysi a chapeli anwes eraill.
Yn 1538 datgysylltwyd y Priordy, ynghyd â mannau addoli ledled Prydain, gan y Brenin Harri VIII. Ers hynny bu'r Santes Fair yn eglwys blwyf i fro eang, fynyddig Beddgelert; yn ymestyn o gopa'r Wyddfa i lefel y môr. Yn ystod 'atgyweiriadau' helaeth 1830 dymchwelwyd yr ystlys ogleddol hir a thynnwyd y sgrîn dderw gerfiedig, seddau'r côr, coed y to a'r gwydr lliw hynafol. Yn 1880 codwyd yr ale groes ogleddol ac adferwyd yr arcêd. Cafwyd gwaith pellach yn 1921, 1929, 1941, 1966, 2000 a 2001.
1. Wrth sefyll oddi mewn i'r drws ym mhen gorllewinol corff yr eglwys, sylwch ar y cynllun eang ond syml sy'n perthyn i'r 13eg ganrif. Mae'n bosibl fod y wal ogleddol i'r chwith yn dyddio o gyfnod eglwys y gymuned Geltaidd yn y 12fed ganrif.
2. Mae'r ffenestr o'r 19eg ganrif yn y wal ogleddol wedi cymryd lle drws canoloesol. Portreadu'r Santes Fair a Dewi Sant a wna'r gwydr o'r flwyddyn 1968. Fe fu drws cyffelyb yn y wal ddeheuol, yn arwain i'r clasordai.
3. Wrth ichi gerdded ar hyd corff yr eglwys, sylwch ar yr arcedau i'r chwith, a adeiladwyd tua 1230. Roedd y rhain yn arwain i ystlys ogleddol a estynnai ar hyd yr eglwys tan newidiadau 1830.
4. Ewch ymlaen at risiau'r gangell a sylwch ar dair ffenestr lansed uchel a adeiladwyd tua 1230 o garreg rut Môn, a gludwyd efallai dros y môr i borthladd Aberglaslyn. Mae'r gwydr lliw yn dangos yr Atgyfodiad, yr Esgyniad, y Gweddnewidiad, Galw'r Disgyblion, y Croeshoeliad, yr Eneiniad, y Rhagfynegiad, y Geni a Bedydd yr Iesu. Rhoddwyd ef yn 1882 i gofio James Wyatt, Bryn Gwynant, asiant i Arglwydd Penrhyn.
5. Derw tywyll cerfiedig sy'n ffurfio croes yr allor; gyda sypiau o winwydd yn crogi o'r ymyl uchaf. Sylwch ar fonogram yr Alffa a'r Omega islaw y groes.
6. Sylwch ar fwa pigfain y drws o'r 13eg ganrif yn wal ogleddol y gangell. Arweiniai hwn i gell y Prior, sef y festri erbyn hyn.
7. Tynnwyd llawer o ffenestri'r 13eg ganrif a rhai nodweddion eraill yn ystod 'atgyweiriadau' 1830 ond goroesodd y ffenestr ganoloesol ddiweddarach hon yn y gangell ddeheuol, fel cilfach. Mae'r gwydr lliw cyfagos, a roddwyd yn 1920, yn dangos y Bugail Da a Goleuni'r Bvd.
8. Rhoddwyd paneli derw y cysegr a'r gangell, sgrîn yr allor, seddau'r côr, desgiau a dodrefn eraill yn 1921. Mae arfbais y teulu a dyddiadau i'w gweld ymysg y cerfiadau o sypiau gwinwydd. Mae plac pres ar ochr y gangell i'r sgrîn.
9. Ewch i lawr y grisiau a throwch i weld manylder y cerfio ar y gangell dderw a'r sgrîn grog. Ar ddwy ochr mynedfa'r gangell mae dau banel yn dangos symbolau'r Efengylwyr: Mathew (dyn adeiniog), Marc (llew adeiniog), Luc (ych adeiniog), ac Ioan (eryr adeiniog). Uwchben y fynedfa mae dau angel yn dal telynau aur. Ar ben y sgrîn eistedda'r Arglwydd ar ei orsedd yn gwisgo coron frenhinol ac yn dal teyrnwialen, ac angylion o boptu iddo yn dal thuserau. Uwchben, mae'r Grog lle portreadir yr Arglwydd wedi'i hoelio ar y groes yn gwisgo'i fantell a choron ei fuddugoliaeth. Ar y dde mae'r Forwyn Fair ac mae Sant Ioan ar y chwith.
10. Rhoddwyd y ddarllenfa o dderw cerfiedig ar ffurf eryr yn 1896. O ffawydden goch y gwnaed y pulpud. Gwelir amryw o furluniau diddorol yn y gangell ac yng nghorff yr eglwys.
11. Dymchwelwyd yr ystlys ogleddol yn 1830. Ail adeiladwyd yr ale groes ogleddol yn 1880 ac adnewyddwyd Capel y Forwyn yn 1941.
12. Yn 1938 y rhoddwyd y gwydr lliw yn y ffenestr ddeheuol, sy'n dyddio o 1830, yng nghorff yr eglwys. Mae'n dangos (i'r chwith) Syr Galâth a bathodyn Catrawd y Frenhines Mari, ac (i'r dde) San Siôr a blaidd sy'n cynrychioli cartref y teulu, Castell Cidwm.
13. Ar y bedyddfaen oddi mewn i'r drws gorllewinol mae dwy arysgrif a ychwanegwyd yn y 1880 au. Ar yr uchaf ceir 'R.W. Ficer. W.E.P. Warden yr Eglwys, adnewyddwyd 1882', mewn gwyddor a ddyfeiswyd yn ôl y sôn gan y bardd Iolo Morgannwg yn y 19eg ganrif. Mae'r arysgrif isaf yn nodi 'Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glan. Amen' a dywedir mai'r mynach tybiedig o'r 8fed ganrif, Nennius, a'i dyfeisiodd. Rhoddwyd y copîau o waith Reubens, 'Disgyniad o'r Groes' gan deulu Priestley, a arferai fod yn noddwyr i'r fywoliaeth hon.
14. Cerddwch y tu allan ac edrychwch ar y cwt clychau a'r gloch newydd a roddwyd yno yn 1938. Gellir gweld hefyd rannau o ffenestr ganoloesol fechan yn y pen gorllewinol.
15. Y tu allan i'r eglwys cerddwch at Gapel y Forwyn. Gwelir gweddillion sylfaen drws o garreg rut yn y gornel ogledd-orllewinol wrth adael y llwybr. Arferai hwn fod ar yr ystlys ogleddol.
16. Gellir gweld cerrig grut canoloesol yn y drws sydd wedi'i gau gerllaw, a arferai arwain i oriel orllewinol, yn ogystal ag mewn ffenestr ar ochr ddwyreiniol yr hen ystlys ganoloesol ogleddol.
17. Gerllaw'r Ywen gwelir y garreg fedd hynaf (1672) sy'n coffáu aelodau o deulu Wynne, Tŷ Isaf (Bwthyn Llywelyn). Tua 1585 prynodd y rhain diroedd yn perthyn i'r priordy. Disgynnydd iddynt, Mr Walker Jones, a roddodd dir i estyn y fynwent yn 1850 a 1884.
18. Gwelir beddau T.H. Parry Williams, Carneddog, Glaslyn ac Edith Evans (Telynores Eryri) yn y fynwent i'r de or eglwys.
Iesu a ddywedodd
"Deuch ataf fi bawb a'r y sydd yn flinderog ac yn llwythog,
a mi a esmwythâf arnoch"
Gwasanaethau bob dydd Sul.
Gweler yr hysbysfwrdd am fanylion.
Ceir manylion yng nghyntedd yr eglwys am wasanaethau eraill astudio'r Beibl, cyfarfodydd gweddi cyfeillach ac yn y blaen.
Bob dydd Sul a Dydd yl 4:00 p.m. Offeren yn y Santes Fair
Fe'I sefydlwyd yn 1995 I alluogi Cristnogion ac eraill o bell ac agos i:-
GWEITHGAREDDAU Achlysuron codi arian a chymdeithasol, gweithgorau ymarferol a chylchlythyrau
GALLWCH GEFNOGI'R GWAITH TRWY: EICH GWEDDÎAU EICH DIDDORDEB YMARFEROL EICH RHODDION
Manylion gan:- Jim Boys, Afallon, Madoc Street, Y Ffôr, Pwllheli, Gwynedd. LL53 6UL. Cymru, Y Deyrnas Unedig.